Gwybodaeth am Sinema Hygyrch
A+ A-  


Beth yw Sinema Hygyrch ?



Mae sawl ffordd y gall oedfan wella ei hygyrchedd, ac yn eu plith mae cael mynediad corfforol da i’r adeilad a darparu pamffledi print bras. Mae’r oedfannau sy’n cymryd rhan yn y prosiect hwn hefyd yn cynnig cyfleusterau lefel uwch i bobl anabl ar lun atgyfnerthiad clywedol, disgrifiad clywedol a chyfleusterau isdeitlo ysgafn yn ystod dangosiadau penodedig.


Beth yw Isdeitlo Ysgafn ?



Isdeitlo YsgafnDefnyddir isdeitlau mewn dangosiadau penodedig (nid yn ystod pob sioe). Caiff isdeitlau eu taflunio ar sgrin y sinema, er mwyn galluogi pobl fyddar a’r rhai sy’n drwm eu clyw ac sy’n methu clywed y trac sain i fwynhau’r ffilm. Mae’r isdeitlau yn disgrifio’r trac sain yn ogystal ag atgynhyrchu’r ddeialog.



Beth yw Atgyfnerthiad Clywedol ?



Disgrifiad Clywedol
Mae atgyfnerthiad clywedol yn chwyddo trac sain y ffilm er budd y bobl hynny sy’n drwm eu clyw. Bydd defnyddwyr y clustffonau yn clywed yr un sain â gweddill y gynulleidfa ac mae’r cyfleustra hwn ar gael ym mhob dangosiad.



Beth yw Disgrifiad Clywedol ?



Disgrifiad ClywedolDisgrifiad sain o’r ffilm yw hwn, a chaiff ei chwarae drwy glustffonau, ar gyfer pobl ddall a’r rhai sydd â nam ar eu golwg sy’n ei chael hi’n anodd gweld y llun neu’n methu ei weld o gwbl. Mae disgrifiad clywedol yn disgrifio’r chwarae sy’n digwydd ar y sgrin ac mae’r cyfleuster ar gael ym mhob dangosiad pan fydd y ffilm wedi’i rhyddhau yn y fformat hwn.




Cysylltwch â’r oedfan yn uniongyrchol, os gwelwch yn dda, (cliciwch yma am fanylion cyswllt yr oedfan) i gael manylion y rhaglen neu ewch i www.yourlocalcinema.com

 

 


Llun o person yn y sinema yn defnyddio clustffon adroddiad disgrifiadol

Cliciwch yma i ddweud wrth ffrind